
AmNawdd – cyfle i glywed mwy am gynllun noddi amgylcheddol cyfrwng Cymraeg. Cynllun sy’n cynnig nawdd o £1,500 a phrofiad gwaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb i astudio a gweithio yn y maes amgylcheddol. Pwrpas y cynllun yw cynyddu’r niferoedd o arbenigwyr Cymraeg yn y maes amgylcheddol, hyrwyddo a chynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch mewn meysydd amgylcheddol a chynnig cyfleoedd gyrfaol i siaradwyr Cymraeg trwy ddarparu lleoliadau gwaith addas a pherthnasol.
11:00-13:00 – Cwis Ysgolion. Cwis dan ofal Dr Dafydd Trystan, Rheolwr Datblygu, Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Galwch draw i weld disgyblion ysgol o’r ardal yn brwydro am deitl ‘Camp y Cymoedd’.
14:00 – Sesiwn alw heibio gyda UCAS. Cyfle i ddarpar fyfyrwyr holi am sut i wneud cais yn y Gymraeg i brifysgolion a cholegau drwy Ymgeisio, system ar-lein UCAS ar gyfer gwneud ceisiadau.
11:00 ac 13:00 – Perfformiad byw.
14:00 – Perfformiad gan Nos Sadwrn Bach. Grŵp o ddisgyblion Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, sy’n chwarae roc a rôl Cymraeg.
16:00 – Derbyniad y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Cyfle i glywed am ddatblygiadau diweddar, gan gynnwys datblygiad y coleg ffederal, cynlluniau ysgoloriaethau a chymrodoriaethau, prosiectau amrywiol o fewn y prifysgolion ynghŷd â llwyfan e- ddysgu’r Porth.
12.00 – Lansiad Termau Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yng nghwmni’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC. Prosiect cyffrous i ddatblygu terminoleg cyfrwng Cymraeg. Amcan y prosiect yw sefydlu a datblygu cyfres o eiriaduron pynciol ar-lein a fydd yn hyrwyddo ac yn hwyluso dysgu, addysgu a chyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg.
15:00 – Derbyniad Gwerddon. Cyflwyniad byr i wefan a rhifyn diweddaraf Gwerddon, gyda phaned i ddilyn.
11.00 – Gweithdy Cerdd dan ofal y Cydlynydd Academaidd mewn Cerddoriaeth, Stephen Rees. Mae’r gwaith yma’n brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Morgannwg a Choleg Prifysgol y Drindod.
13:00 a 15:00 – Perfformiad byw gan Candelas. Pedwar o gyd-ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn, y Bala, sydd wedi eu dylanwadu gan fandiau fel Gola Ola, Y Rei, a Kings Of Leon.
CyfNawdd – cyfle i glywed mwy am y cynllun noddi myfyrwyr y Gyfraith. Cynllun sy’n cynnig nawdd o £1500 a phrofiad gwaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb i astudio a gweithio ym maes y gyfraith. Pwrpas y cynllun yw cynyddu’r niferoedd o arbenigwyr Cymraeg ym maes y gyfraith, hyrwyddo a chynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch mewn maes y gyfraith a chynnig cyfleoedd gyrfaol i siaradwyr Cymraeg trwy ddarparu lleoliadau gwaith addas a pherthnasol.