Rhaglen Datblygiad Staff

Bwriedir y rhaglen hon at bawb yn y sector Addysg Uwch sy’n dymuno derbyn hyfforddiant sgiliau proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynigir y sesiynau hyn i bob aelod o staff, boed yn staff newydd neu staff profiadol, yn ogystal ag i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd, lle bynnag y bônt.

Mae’r Ganolfan Addysg Uwch yn cydweithio’n agos â’r sefydliadau AU i gynnig Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) i’r rheini sy’n dymuno cymhwyso fel addysgwyr prifysgol. Caiff y dystysgrif hon ei chynnig gan 5 o brifysgolion Cymru ar hyn o bryd (dan enwau ychydig yn wahanol yn Saesneg, er mai’r un enw a ddefnyddir ar y dystysgrif yn Gymraeg), sef:
  • Prifysgol Abertawe (tHE)
  • Prifysgol Aberystwyth (PGCTHE)
  • Prifysgol Bangor (PGCertHE)
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (tHE)
  • Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (PgCTHE)

Er mwyn cofrestru ar y TUAAU bydd angen i chi wneud hynny trwy’ch sefydliad lleol. Fodd bynnag, bydd modd gwneud y TUAAU yn gyfangwbl trwy’r Gymraeg trwy fynychu’r cyrsiau cynefino a’r gweithdai hyfforddi a ddarperir ar y cyd rhwng y Ganolfan Addysg Uwch a’r sefydliadau lleol.

I’r aelodau hynny o staff neu fyfyrwyr ôl-radd nad ydynt yn perthyn i un o’r 5 sefydliad hyn, mae modd i chi gymhwyso trwy ddilyn llwybr allanol ac mae croeso i chi gysylltu â ni am rhagor o fanylion.

Bydd y TUAAU yn cychwyn gyda chwrs cynefino preswyl (a gynhelir ddwywaith y flwyddyn, ym mis Medi a mis Ionawr) i'ch rhoi chi ar ben ffordd. At hynny, cynhelir cyfres o weithdai hyfforddiant gydol y flwyddyn y bydd modd adfyfyrio arnynt ar gyfer eich cymhwyster. Ceir gwybodaeth lawn am y cyrsiau cynefino yn yr is-adrannau sy’n dilyn y dudalen hon.

Mae rhai o'r gweithdai hyfforddiant hefyd yn addas fel sesiynau sgiliau ar gyfer myfyrwyr ôl-radd ac fel sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer staff. Nid oes rhaid dilyn unrhyw gynllun cymhwyso penodol cyn gallu mynychu’r gweithdai hyn, ac os hoffech drafod beth sydd fwyaf addas i chi, mae croeso i chi gysylltu gyda ni am sgwrs.

I gofrestru ar y gwahanol gyrsiau neu weithdai, lawrlwythwch y ffurflenni cofrestru o’r is-adran Gweithdai.

Rheolwr Datblygu Staff
d.phillips@aucyfrwngcymraeg.ac.uk
Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Staff 2009-10 (Manylion Llawn)
Rhaglen 2009-10 yn cynnwys gwybodaeth am amcanion, deilliannau a dulliau asesu’r hyfforddiant.