Hyfforddiant
Mae’r Ganolfan Addysg Uwch yn cynnal nifer o weithgareddau ‘Hyfforddiant a Datblygiad Staff’ trwy gydol y flwyddyn. Nod y gweithgareddau hyn yw cynyddu’r ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer y rheini sydd am ddatblygu gyrfa yn y byd academaidd – gan gynnwys myfyrwyr ôl-radd, cymrodyr ôl-ddoethuriaeth, a staff dysgu newydd a phrofiadol fel ei gilydd.
Trefnir yr holl ddarpariaeth hyn mewn cydweithrediad agos â’r sefydliadau AU er mwyn datblygu a gwella sgiliau, rhannu profiadau a meithrin ymarfer da. Bwriedir i’r hyfforddiant hwn fod ar gael ar hyd y continwwm cyfan o ddatblygiad academaidd, gan gynnwys:
- hyfforddiant i ôl-raddedigion
- cymhwyster TUAAU i’r rheini sy’n addysgu mewn prifysgolion
- sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Yn yr adran hon cewch rhagor o wybodaeth am yr holl ddarpariaeth hyfforddiant a datblygu staff cyfrwng Cymraeg a gydlynnir gan y Ganolfan yn ystod y flwyddyn academaidd i ddod.