Dogfennau

Dogfennau

Yn yr adran hon ceir dogfennau sy'n ymwneud a'r strategaeth genedlaethol a weithredir gan sefydliadau yng Nghymru er mwyn cynllunio ac ehangu'r ddarpariaeth ym maes addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg. Cewch ddod o hyd i gofnodion y corff cynllunio cenedlaethol ar gyfer datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion (a elwir yn Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg), ynghyd a phapurau perthnasol o'r grwpiau sy'n cefnogi'r cynllun cenedlaethol, sef Marchnata a Dilyniant, Hyfforddiant a Datblygu Staff, ac E-ddysgu a Dysgu Cyfunol. Mae'r adran hon hefyd yn ymgorffori dogfennau'r paneli rhwydwaith, cynlluniau ysgoloriaethau a chymrodoriaethau, yn ogystal â’r ffurflenni cais ar gyfer y cynlluniau noddi. Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â'r Ganolfan.
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 0844 800 7375
gwybodaeth@aucyfrwngcymraeg.ac.uk