Llun Cyllido

Cyllido

Mae’r Ganolfan yn darparu grantiau blynyddol i brifysgolion Cymru i gynyddu niferoedd y darlithwyr sydd yn medru addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ehangu’r ddarpariaeth a’r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr. Gwneir hyn drwy ariannu cynllun ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a chynllun cymrodoriaethau ar gyfer academyddion sydd yn cychwyn ar gyrfa fel addysgwyr, ac yn achos pob dyfarniad  rhaid i’r Brifygsol ymrwymo i greu swydd ar ddiwedd y cyfnod ariannu.

Mae’r Ganolfan hefyd yn gweinyddu cronfa ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg genedlaethol, a thrwy’r gronfa honno ariennir amrediad eang o brosiectau i ddyfnhau a chyfoethogi profiadau myfyrwyr sydd yn astudio drwy’r Gymraeg.

Datblygiad diweddar arall yw cynlluniau noddi ar gyfer myfyrwyr sydd yna astudio drwy’r Gymraeg mewn pynciau penodol. Mae’r Ganolfan eisoes yn gweinyddu dau gynllun a rhagwelir y caiff cynlluniau pellach eu cyflwyno yn y dyfodol.