Llun Mantais

Ymgyrch Mantais

Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am ymgyrch Mantais, sydd yn hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol. Bydd Mantais yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau yn y gwyliau cenedlaethol, ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau lleol gydol y flwyddyn, yn bennaf mewn partneriaeth gydag ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach a darparwyr addysgol eraill. Bydd Mantais hefyd yn trefnu seminarau yn ffeiriau rhanbarthol UCAS ac yn cynnal gwefan ddeinamig fel rhan o strategaeth gyfathrebu ehangach. Ar y wefan hon ceir gwybodaeth am gyrsiau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg trwy ddefnyddio’r chwilotydd cyrsiau a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda’r prifysgolion.

Nod Mantais yw codi proffil y cyfleoedd sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn y sector addysg uwch, gan bwysleisio’r manteision o wneud hynny. Yn y dyfodol, gyda datblygiad y coleg ffederal, rhagwelir y bydd yn bosibl astudio mwy o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, o newyddiaduraeth i seicoleg, i’r gyfraith a’r amgylchedd. Mae 'na ddewis eang o yrfaoedd ar gael i’r rheiny sy’n astudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Yn aml, mae ymgyrch Mantais yn chwilio am unigolion i gyfrannu at gyfres o weithgareddau, felly os hoffech chi sôn am eich profiadau o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gallu ysgogi ac annog rhai eraill i wneud yr un fath, rhowch wybod.

Mantais
Gwefan hyrwyddo Mantais ar gyfer darpar fyfyrwyr, gan gynnwys y Chwilotydd Cyrsiau sy'n cynnwys gwybodaeth am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru
Rheolwr Cyfathrebu
r.griffiths@aucyfrwngcymraeg.ac.uk