Sail ein cenhadaeth yw gweithredu, cefnogi a hwyluso cynlluniau cenedlaethol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu, datblygu ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf gwneir hyn yn bennaf drwy adeiladu ar argymhellion adroddiad yr Athro Robin Williams ar y coleg ffederal (Mehefin 2009). Wrth i gynlluniau pellach gael eu hystyried yr ydym yn gweithio gyda’r prifysgolion i ddatblygu partneriaethau cydweithredol effeithiol, sicrhau mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg, hyfforddi cenhedlaeth newydd o ddarlithwyr i’r dyfodol, ynghyd â chyllido modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i’r sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Craidd ein rhaglen ddatblygu academaidd yw’r llwyfan adnoddau ac E-Ddysgu, y Porth, a lansiwyd yn 2009. Bydd y Porth yn cyfrannu at weledigaeth y coleg ffederal o adeiladu cymuned academaidd Gymraeg a fydd yn medru manteisio ar addysg ac ysgolheictod o’r safon uchaf.