
Mae’r Ganolfan Addysg Uwch yn arwain ar y gwaith o weithredu, cefnogi a hwyluso cynlluniau cenedlaethol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu, datblygu ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, er mwyn cefnogi ymrwymiad polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i greu coleg ffederal.
Y Porth yw'r llwyfan e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer y sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg, sy’n defnyddio'r technolegau gwe diweddaraf i hyrwyddo cyfleoedd astudio i fyfyrwyr yn ein prifysgolion. Datblygwyd Y Porth gan dîm e-ddysgu y Ganolfan er mwyn darparu llwyfan i adnoddau a modiwlau sydd wedi eu creu gan brifysgolion Cymru dan nawdd y Ganolfan.
Mae’r Ganolfan yn gyfrifol am ymgyrch Mantais, sy'n hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol. Bydd Mantais yn trefnu rhaglen lawn o weithgareddau yn y gwyliau cenedlaethol, ac yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau lleol gydol y flwyddyn, yn bennaf mewn partneriaeth gydag ysgolion uwchradd, colegau addysg bellach a darparwyr addysgol eraill.
Anelir y Rhaglen Datblygiad Staff at bawb yn y sector addysg uwch sy’n dymuno derbyn hyfforddiant sgiliau proffesiynol, gan gynnwys Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch, trwy gyfrwng y Gymraeg. Cynigir y sesiynau hyn i bob aelod o staff, boed yn staff newydd neu staff profiadol, yn ogystal ag i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd, lle bynnag y bônt.